Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 13 Mehefin 2018.
Lywydd, roeddwn yn meddwl tybed a fyddai gennyf gyfle arall i siarad y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu ei bod wedi iselhau ei hun yn y cyfraniad hwnnw. Credaf fod yna gwestiwn yno rywle, er fy mod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd iddo. Gadewch i mi ddweud hyn: yn sicr ni fu unrhyw drafodaeth o fewn y Blaid Lafur o'r math hwnnw, ac fel y dywedais, mae wedi iselhau ei hun yn y cyfraniad hwnnw. Efallai ei bod hi'n cyfeirio at adroddiad panel Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol, sy'n banel annibynnol, ac, os oes ganddi unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y rheini, yna dylai eu cofnodi, ac wynebu'r hyn y mae'n ei ddweud yno. Ond mae'n rhaid i mi ddweud hyn wrthi: rwy'n ystyried adroddiad y panel cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Cymru; nid wyf wedi gwneud unrhyw benderfyniadau yn ei gylch, a phan fyddaf yn gwneud penderfyniad arno, fe'i cyhoeddaf. A bydd yr adroddiad hwnnw'n dod gan banel annibynnol. Rwy'n gobeithio y bydd hi'n defnyddio ei chwestiwn nesaf fel cyfle i dynnu rhai o'i sylwadau yn ôl.