Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 13 Mehefin 2018.
—parhad rheolaeth uniongyrchol y llywodraeth ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwyf wedi gofyn i chi o'r blaen, ac fe ofynnaf i chi eto, ac fe gaiff ei gofnodi eto: pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch Ysgrifenyddion Llywodraeth Cymru eraill, sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny, ynglŷn â chydweithio mewn ffordd strategol, neu a yw'n wir nad yw'r trafodaethau hynny wedi digwydd, a’r hyn sydd gennym yma yw chi’n crwydro oddi ar y testun i ail-greu hen gynlluniau treuliedig a gafodd eu diddymu’n gadarn unwaith o’r blaen?