Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 13 Mehefin 2018.
O’r gorau. Rwy'n credu y gallwn dderbyn yr anhawster o gael cynghorau lleol, a arweinir gan y Blaid Lafur, ac sy'n gwneud yn dda o dan drefn y cyntaf i'r felin, i newid i system wahanol. Rwy'n credu y gallech chi gydnabod y gallai hynny fod yn broblem. Ond fe symudwn ymlaen.
Maes arall lle mae gennym ddiffyg democrataidd yng Nghymru yw’r system gynllunio. Mae llawer o gymunedau lleol yn teimlo nad oes ganddynt rym o gwbl pan fyddant yn uno i ffurfio grwpiau protest ac ymgyrchu yn erbyn datblygiadau lleol diangen, fel priffyrdd a phrosiectau tai mawr. Ac yna fe welant, er gwaethaf gwrthwynebiad lleol llwyr bron, fod y cynllun yn cael caniatâd cynllunio beth bynnag. Mae UKIP yn honni y dylem ganiatáu ar gyfer refferendwm lleol yn yr achos hwn. Byddai'r canlyniad yn gyfreithiol rwymol. Byddai'r polisi hwn yn democrateiddio'r broses gynllunio. Unwaith eto, gan feddwl am eich sylwadau yn gynharach ynglŷn â sut i rymuso dinasyddion lleol, a wnewch chi feddwl eto am fabwysiadu'r polisi hwn eich hun?