Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch, Lywydd. O fod eisiau datganoli plismona i Gymru, a yw Ysgrifennydd y Cabinet serch hynny'n cefnogi parhad y model comisiynydd heddlu a throseddu etholedig? Mae'n iawn i gymeradwyo Heddlu Gwent a Jeff Cuthbert am y cynllun penodol hwn, ond a yw'n cydnabod bod natur atebol ac etholedig y rôl honno'n hanfodol ar gyfer yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn?