Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 13 Mehefin 2018.
Ni ddylent fod ar waelod y rhestr; dylent fod ar frig y rhestr. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r syniadau y mae'r Aelodau wedi eu cyflwyno heddiw—syniadau yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd, a grŵp cynghori'r Gweinidog—i wneud y ffordd yr ydym yn cefnogi gofalwyr, yn ifanc a hen, yn real wrth inni symud ymlaen, oherwydd gwyddom fod eu tosturi, eu cariad, a'u gofal yn amhrisiadwy, a byddai'r effaith economaidd pe bai'n rhaid inni ddarparu gofal amgen yn eu lle yn gwbl anfforddiadwy. Diolch yn fawr.