Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rydw i'n codi i gynnig y ddadl yma ar ariannu ysgolion yn enw Plaid Cymru. A gaf fi ddweud, reit ar y cychwyn fan hyn, nad ydw i'n ddall i realiti llymder, ac mi fyddwch chi'n sylwi nad yw hwn yn gynnig sydd jest yn dweud, 'Rhowch mwy o bres i ysgolion'? Ond nid ydw i chwaith yn fyddar i'r rhybuddion sy'n dod o gyfeiriad y sector ein bod ni'n cyrraedd pwynt, ar ôl blynyddoedd o doriadau a chyllidebau yn lleihau, gyda chostau, wrth gwrs, yn aml iawn yn dal i gynyddu, lle ei bod hi bellach yn anghynaladwy i barhau i ddarparu'r lefel o wasanaeth rŷm ni wedi dod i'w ddisgwyl dros y blynyddau. Ac, wrth gwrs, nid jest fi sy'n dweud hyn. Mi fydd pob un ohonoch chi, rydw i'n siŵr, fel Aelodau etholedig, wedi derbyn gohebiaeth a chyswllt gan benaethiaid, gan lywodraethwyr, gan rieni, gan gynghorwyr a chan undebau athrawon, i gyd yn dweud yr un peth. Maen nhw, wrth gwrs, erbyn hyn yn defnyddio'r geiriau 'creisis ariannu' yn agored yn y cyd-destun yma.
Felly, beth yw'r realiti cyllidebol? Wel, rydym ni'n gwybod bod cyllidebau ysgolion a chyllid fesul disgybl wedi gostwng mewn termau real dros y blynyddoedd diwethaf yma. Yn y flwyddyn academaidd yma, mae'r gyllideb addysg yng Nghymru wedi cwympo, o £1.75 biliwn yn 2016-17, i £1.6 biliwn. Yn ôl BBC Cymru, mae cyllidebau ysgolion wedi gostwng gan tua £370 fesul disgybl mewn termau real mewn chwe blynedd. Rydym ni'n gwybod 10 mlynedd yn ôl fod cyllideb ysgolion unigol cyfartalog fesul disgybl yn rhyw £3,500 y flwyddyn. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd cyllideb pob ysgol unigol, ar gyfartaledd fesul disgybl, yn £4,234, a gyda llaw, roedd yna wahaniaeth o hyd at £1,000 rhwng ambell sir o fewn y ffigur yna, sydd yn ei hun yn dweud stori arall am y sefyllfa ariannu, ac efallai y down ni at hynny yng nghwrs y ddadl yma, rydw i'n siŵr. Ond pe bai'r gwariant fesul disgybl yna wedi codi gyda chwyddiant, wrth gwrs, mi fyddai fe dipyn yn uwch. Yn wir, mi fyddai fe bron i £400 yn uwch fesul disgybl. Felly, mae hynny yn adlewyrchu y toriad termau real yr ydym ni wedi'i weld. Nid oes rhyfedd, felly, fod cyllidebau ysgolion wedi dod yn ansefydlog a bod risg y bydd addysg y disgyblion yna yn dioddef oni bai fod camau brys yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng cyllido yma.