Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Fel y bydd yr Aelodau'n deall, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi bod â diddordeb brwd iawn mewn materion cyllido ers inni gael ein sefydlu. Roedd un o'n hymchwiliadau cynharaf yn ymwneud â'r penderfyniad i gyfuno cyllid y grantiau a oedd wedi'u clustnodi'n flaenorol ar gyfer dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a dysgwyr sy'n Sipsiwn a Theithwyr yn y grant gwella addysg newydd ac ers i'r penderfyniad gael ei wneud yn y gyllideb fwyaf diweddar i roi'r arian hwnnw yn y grant cynnal refeniw, rydym wedi cynnal deialog gyson gydag Ysgrifennydd y Cabinet ac yn parhau i graffu ar effaith y penderfyniad hwnnw ar y grwpiau hynny o ddysgwyr.
Yma, ar 4 Gorffennaf, rydym yn mynd i fod yn trafod ymchwiliad mawr y pwyllgor i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc. Mae'r argymhelliad cyffredinol yn hwnnw yn galw am sicrhau bod cyllid wedi'i glustnodi ar gael i ysgolion fel y gallant ddod yn ganolfannau cymorth iechyd emosiynol a meddyliol ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, oherwydd pan fydd y system dan bwysau, rydym yn cydnabod na fydd yn bosibl i'n hathrawon fuddsoddi'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith hwnnw a hefyd fel rhan o'r ymchwiliad, roedd hi'n amlwg fod yna lawer iawn o ymarfer da yng Nghymru o ran cefnogi pobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl ond bod llawer o hynny hefyd yn cael ei ariannu drwy bethau fel y grant amddifadedd disgyblion. Clywsom fod yna ysgolion nad oeddent yn gallu cyflawni'r rôl honno am nad oedd ganddynt fynediad at y grant amddifadedd disgyblion.
Bydd ein hymchwiliad diweddaraf i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol yn cael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf, ac roedd digon o gyllid i ysgolion yn thema gref iawn drwy gydol yr ymchwiliad hwnnw, gyda llawer o dystiolaeth yn cael ei rhoi i'r pwyllgor fod pethau fel y grant amddifadedd disgyblion yn cael ei ddefnyddio bellach o ganlyniad i'r pwysau ar gyllidebau ysgol mwy cyffredinol. Felly, o ganlyniad i hynny, rwy'n falch iawn fod y pwyllgor wedi penderfynu mai dyma'r amser i ni edrych yn fwy trylwyr ar ariannu ysgolion. Fel y bydd Llyr a Mark yn gwybod, yfory byddwn yn trafod y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad— ymchwiliad eang a phellgyrhaeddol—i ddigonolrwydd cyllid ysgolion yng Nghymru, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i'r gwaith hwnnw gael ei wneud yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, a chredaf mai ein pwyllgor fydd y bobl iawn i wneud y gwaith hwnnw.
Mae'n rhaid imi anghytuno â chyfraniad Mark Reckless. Credaf fod gan y Ceidwadwyr Cymreig wyneb i ddod i'r Siambr a rhoi pregeth i ni ar record y Llywodraeth hon yn ceisio diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb mwy nag erioed o gyni o San Steffan. Buaswn yn awgrymu, Mark Reckless, y byddai'n well i chi ddefnyddio eich ymdrechion yn pregethu wrth y rheini yn San Steffan sy'n trosglwyddo'r toriadau cyllidebol parhaus hyn i ni.