7. Dadl Plaid Cymru: Ariannu Ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 13 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:56, 13 Mehefin 2018

Fe ddylai lles ac addysg ein disgyblion mewn ysgolion ar draws Cymru fod ar flaen ein meddyliau ni yn y Cynulliad yma. Mae ysgolion Cymru wedi wynebu sefyllfa ariannol heriol ers nifer o flynyddoedd, ac yn barod wedi gwneud arbedion mawr. Mae'r arweinwyr a staff yr ysgolion wedi gwneud eu gorau o sefyllfa anodd dros ben er mwyn diogelu addysg a lles disgyblion, ond mae'r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt ble mae'r effaith ar y proffesiwn a'r disgyblion fel ei gilydd mor niweidiol fel bod yn rhaid ystyried y sefyllfa fel un o argyfwng erbyn hyn.

Mae'r sefyllfa yn deillio o'r setliad ariannol mae awdurdodau lleol wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru, sydd, yn ei dro, yn deillio o'r setliad gan Lywodraeth San Steffan. Rydym ni'n gwybod hynny, ond mae angen i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb dros geisio taclo'r argyfwng sy'n wynebu'r byd addysg heddiw. 

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros addysg, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyllido ysgolion, ac mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i awdurdodau lleol wneud yn siŵr bod darpariaeth ddigonol ar gael ar gyfer anghenion pob dysgwr. Er mwyn sicrhau hynny, wrth gwrs, mae angen sicrhau bod y cynghorau yn derbyn digon o arian. Mewn adroddiad gan Wasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, fe edrychwyd ar gyllidebau cynghorau rhwng 2009-10 a 2016-17. Dros y cyfnod yma, roedd cynnydd o 48 y cant ar wariant y gwasanaeth iechyd, ac roedd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i amddiffyn gwariant ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Ym maes addysg, roedd ymrwymiad penodol i gynyddu gwariant ar ysgolion dros 1 y cant uwchben y newid yng nghyllideb bloc Cymru, bloc a oedd yn crebachu.

Nid oedd dim ymrwymiad i amddiffyn cyllidebau cynghorau, ac erbyn 2016-17 roedd grantiau gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng 17.1 y cant, gostyngiad o bron i draean yr holl wariant ar ysgolion gan gynghorau Cymru. Er i gynghorau ddefnyddio trethi cyngor a mesurau eraill i wneud i fyny am hyn yn rhannol, roedd yn dal i fod £529 miliwn yn llai o arian yn 2016-17 o'i gymharu â 2009-10. Mae hyn bron gymaint â'r holl wariant gan gynghorau yng Nghymru ar wasanaethau cymdeithasol i bobl hŷn. O ganlyniad, fe ddisgynnodd gwariant llywodraeth leol ledled Cymru tua £223 y pen, ac, er gwaethaf ymdrech cynghorau Cymru i osgoi salami-slicing a diogelu ysgolion a gofal, fe ddisgynnodd gwariant ar gyllidebau ysgolion 4.4 y cant, neu £254 y pen. Fe ddefnyddiwyd arian wrth gefn yn yr ysgolion, ac fe ddisgynnodd cronfeydd wrth gefn ysgolion 41.3 y cant yn y cyfnod dan sylw. Mae hyn i gyd yn arwydd clir o’r argyfwng ariannol sy’n wynebu ein hysgolion ni.

Yn ôl yr un un adroddiad, fe wnaeth ymrwymiad y Llywodraeth flaenorol i warchod cyllidebau ysgolion rywfaint o wahaniaeth, ond nid oes ymrwymiad o’r math mewn lle gan y Llywodraeth bresennol, ac felly mae’n ddealladwy bod undebau, y gweithlu addysg, rhieni a disgyblion yn bryderus iawn ynglŷn â’u hysgolion.

Yn y tymor byr, mae angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gymryd camau i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar gael i ysgolion mor llawn â phosib, mor dryloyw â phosib, fod y wybodaeth yna yn gyflawn, ac maen nhw angen cael y wybodaeth yna mor gynnar â phosib fel bod ysgolion yn gwybod beth ydy’r gyllideb yn mynd i fod. Mae UCAC, er enghraifft, wedi galw am ystyried y posibilrwydd o osod cyllidebau bob tair blynedd, ac mae rhai awdurdodau lleol yn llwyddo i fedru cynllunio ymlaen ar hyd y graddau yna.

Mae angen hefyd i Lywodraeth Cymru gynnal archwiliad llawn o sefyllfa ariannol ysgolion Cymru, ar y cyd â rhanddeiliaid, a hynny fel y cam cyntaf tuag at geisio datrys yr argyfwng ariannol yn ein hysgolion ni.