Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 19 Mehefin 2018.
Gwnaf, ac yn arbennig, wrth gwrs, i edrych ar ei atal. Mae hynny'n bwysig iawn. Gyda CAMHS, mae'n iawn i ddweud y bu cynnydd sylweddol i'r galw am CAMHS a bodlonwyd y galw hwnnw gennym ni trwy ddyrannu—os cofiaf—£8 miliwn y flwyddyn tuag at CAMHS er mwyn iddyn nhw fodloni'r galw a oedd yno. Mae iechyd meddwl, fel y bydd yn gwybod, yn flaenoriaeth allweddol i ni yn 'Ffyniant i Bawb'. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod iechyd meddwl yn cael ei weld fel rhywbeth sy'n flaenoriaeth i bob llywodraeth yn y dyfodol, a bydd hynny'n llywio unrhyw benderfyniadau gwario yr ydym ni'n eu gwneud os oes unrhyw arian ychwanegol ar y bwrdd.