Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 19 Mehefin 2018.
Wel, mae nifer o reolaethau ar waith eisoes mewn lladd-dai. Mae milfeddygon swyddogol yn bresennol ym mhob un ohonyn nhw. Ceir teledu cylch cyfyng yn y lladd-dai mwy o faint, sy'n prosesu'r mwyafrif o anifeiliaid, a gall milfeddygon swyddogol gael gafael ar recordiadau os byddant yn amau nad yw safonau lles yn cael eu bodloni. Wedi dweud hynny, rydym ni'n benderfynol o wella safonau ac arferion pan ei bod hi'n angenrheidiol ac yn rhesymol i wneud hynny, a bydd y pecyn ariannu buddsoddiad busnes bwyd gwerth £1.1 miliwn yn cynorthwyo lladd-dai bach a chanolig eu maint i wella eu cyfleusterau, gan gynnwys gosod teledu cylch cyfyng.