Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 19 Mehefin 2018.
Wel, wrth gwrs, rŷm ni wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach ac SMEs, ac rŷm ni wedi buddsoddi £86 miliwn lan hyd at 2020 i sicrhau bod busnesau'n cael hysbysrwydd a'r manylion sydd eisiau arnyn nhw, ac yn cael canllawiau a hefyd yn cael cefnogaeth fusnes trwy'r rhaglen Busnes Cymru. Mae'n bleser i weld bod cynnydd o 10.6 y cant o fusnesau yn sir Benfro ers 2011, ac, wrth gwrs, mae'r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud yn y system fand eang wedi gwneud gwahaniaeth mawr ynglŷn â sicrhau bod busnesau'n gallu sefyll mewn ardaloedd mwy gwledig ac nad ydynt yn teimlo eu bod nhw'n gorfod symud i lefydd mwy trefol.