Gofal Iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 19 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 19 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae 'Fframwaith Cynllunio GIG Cymru 2018/21' yn nodi'r egwyddorion y dylai byrddau iechyd eu dilyn wrth ddatblygu eu cynlluniau tymor canolig integredig. Rydym ni hefyd wedi cyflwyno ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y cynllun tymor hir, 'Cymru Iachach', a lansiwyd yr wythnos diwethaf.