Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 19 Mehefin 2018.
Wel, yr unig ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud yw y byddwn ni'n codi'r cap cyflog—yn anarferol, oherwydd nid ydym ni'n gwneud yr addewidion hynny cyn ein bod ni'n gwybod faint o arian sydd wedi ei ddyrannu, fel rheol. Felly, bydd yn rhaid talu am hynny o ba bynnag swm o arian y byddwn ni'n ei gael gan Lywodraeth y DU; nid oes unrhyw arian ychwanegol ar ei gyfer. Ac fel y dywedais yn yr ateb yn gynharach, nid yw'n mynd i fod yn £1.2 biliwn. Nid ydym ni'n gwybod pa un a fydd toriadau yn rhywle arall a fydd yn gostwng y ffigur hwnnw. Tan y byddwn ni'n gwybod beth yw'r ffigur terfynol, mae'n anodd iawn gwneud unrhyw ymrwymiadau o ran gwariant.