Gofal Iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 19 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:10, 19 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wn i ddim, Prif Weinidog, a ydych chi wedi cael cyfle i weld adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar achos trallodus Ellie a Chris James o Hwlffordd, y bu farw eu mab yn ysbyty Glangwili. Disgrifiwyd llu o fethiannau yn yr adroddiad ombwdsmon hwnnw, a waethygwyd gan y penderfyniad i ddisgrifio marwolaeth eu mab fel 'marw-anedig', er gwaethaf y ffaith bod ganddo arwyddion o fywyd ar ôl cael ei eni, a bod hynny ynddo'i hun o ganlyniad i sawl methiant, gan gynnwys, er enghraifft, methu â monitro curiad y galon. Digwyddodd hyn yng Nglangwili, gyda mam ifanc yn cael eu symud o Lwynhelyg i Langwili. Methiant i uwchgyfeirio—rhywbeth y dywedwyd wrthym na fyddai'n digwydd pan fyddai'r gwasanaeth yn cael ei symud o Lwynhelyg i Langwili, wrth gwrs. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i estyn y cydymdeimlad mwyaf i'r teulu a'r amgylchiadau y maen nhw wedi eu dioddef. Ond, yn arbennig, byddai gen i ddiddordeb mewn cael gwybod pa gamau penodol yr ydych chi'n eu cymryd yn unol â chasgliadau yr ombwdsmon y dylai'r bwrdd iechyd weithredu argymhellion yr adroddiad hwn nawr, a pha un a ydych chi'n cymryd unrhyw gamau uniongyrchol eraill i sicrhau bod gennym ni, yn y fan honno, y safonau uchaf o ofal newyddenedigol yn ein hardal bwrdd iechyd.