Dyfarnu Grantiau i Gwmnïau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 19 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 19 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, nid yw'r arfer dilynol gan fusnes yn golygu eu bod nhw'n ymgymryd â'r arfer hwnnw pan dderbyniwyd y grant, ond mae hi'n iawn i ddweud, yn 2014, bod Celtic Wealth Management wedi cael cynnig cymorth ariannol. Os bu camwerthu cyfreithiol, bydd hynny'n mynd yn groes i'n hamodau, a byddwn yn cymryd camau i adennill unrhyw arian yr ydym ni wedi ei roi iddyn nhw. Nawr, y peth cyntaf y mae'n rhaid ei weld yn digwydd yw, mae'n rhaid cynnal ymchwiliad, yn fy marn i, gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a chan y rheoleiddwyr eraill. Nhw sy'n gyfrifol yn y pen draw am orfodi'r deddfau sy'n llywodraethu gwasanaethau ariannol, ond byddwn yn parhau i archwilio'r sefyllfa. Fel y dywedais yn gwbl eglur, os oes diffyg cydymffurfiad ag amodau'r cymorth ariannol yr ydym ni wedi ei ddarparu, byddwn yn cymryd camau i adennill yr arian hwnnw.