Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diweddarodd yr ysgrifennydd Iechyd yr Aelodau yr wythnos diwethaf ar y cynnydd a wnaed mewn rhai meysydd. Roedd hefyd yn eglur ynghylch yr heriau sylweddol sy'n parhau, a'r cymorth a fydd ar waith ar gyfer y cam nesaf o'r gwaith. Mae'n iawn i ddweud bod rhai gwasanaethau wedi eu dad-ddwysáu. Cafodd gwasanaethau mamolaeth, wrth gwrs, a oedd mewn sefyllfa anodd iawn ar un adeg, eu dad-ddwysáu fel pryder mesurau arbennig ym mis Chwefror, ac mae hynny'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda gweithredu a chymorth â phwyslais, a dyna'r model yr ydym ni'n bwriadu ei ddefnyddio i sicrhau bod rhagor o ddad-ddwysáu yn y misoedd i ddod.