Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 19 Mehefin 2018.
Wel, mae llai o arian, gan ein bod ni'n cael llai o arian gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Felly, nid yw hi fel pe byddai llwyth sydyn o arian y gallwn ni ei ddefnyddio er mwyn helpu busnesau. Ond rydym ni'n ceisio gwella ein cynnig i fusnesau yn barhaus o ran arian grant, yn enwedig drwy gael gwared ar achosion o ddyblygu, gan mai'r demtasiwn weithiau yw creu nifer o wahanol gynlluniau grant fel bod gwahanol geisiadau yn gallu ffitio'n iawn. Nawr, gall hynny arwain at lu o gynlluniau grant mewn amser, a nod y gwaith sy'n mynd rhagddo yw lleihau, o bosibl, nifer y grantiau sydd ar gael a symleiddio'r ffordd yr ymgeisir amdanynt.