Lefelau Ail-droseddu

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 19 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:03, 19 Mehefin 2018

Mae bron pob darn o ymchwil sydd wedi edrych ar faint carchardai wedi dangos bod carchardai llai yn cael gwell canlyniadau i garcharorion a chymunedau o'u cymharu â charchardai mawr, a rhai mawr iawn, superprisons, yn enwedig. Felly, os ŷch chi o ddifrif ynglŷn â lleihau lefelau aildroseddu, a wnewch chi ymrwymo, os a phan fydd y materion yma yn cael eu datganoli, i dorri cwys wahanol yng Nghymru ac i symud oddi wrth y model yma a sicrhau nad oes yna ragor o garchardai mawr yn cael eu datblygu yma yng Nghymru?