Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 19 Mehefin 2018.
Gwnaf, mae'r cymorth ariannol yr ydym ni'n ei ddarparu i fusnesau yn chwarae rhan hanfodol i'w helpu i sefydlu, i gynnal ac i dyfu, ac i'w galluogi i gael budd economaidd ehangach, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid i fusnesau sy'n cael cymorth o'r fath fodloni telerau ac amodau'r grant, a gallai unrhyw fethiant i wneud hynny arwain at adennill y grant hwnnw.