Dyfarnu Grantiau i Gwmnïau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 19 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:16, 19 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, gallaf ddweud bod 86 o sefydliadau wedi cytuno i'r cod eisoes, sy'n ymrwymo sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat a thrydydd sector i gyfres o gamau gweithredu sy'n mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac annheg. Mae'r pedwar canllaw ategol sydd wedi eu cynnwys yn y cod yn cynnwys dulliau a chyngor i helpu i roi'r ymrwymiadau hynny ar waith. Maen nhw'n cynnwys, er enghraifft, mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth annheg a hunangyflogaeth ffug, mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern ac achosion o gamddefnyddio hawliau dynol, gweithredu'r cyflog byw trwy gaffael, a chosbrestru. Disgwylir i'r holl sefydliadau sy'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru naill ai'n uniongyrchol neu drwy grantiau neu gontractau ymrwymo i'r cod.