Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch, Llywydd. Mae'r datganiad 'Y Dechrau Gorau mewn Bywyd; Gwneud i’r Blynyddoedd Cynnar Gyfrif', wedi ei dynnu'n ôl o'r agenda heddiw. Mae'r amseroedd ar gyfer yr eitemau eraill wedi'u haddasu yn unol â hynny. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a welir ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i Aelodau.