2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 19 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:41, 19 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Mark Isherwood, am y ddau bwynt hynny. Fel y gwnaethoch chi eich hun ddweud, maen nhw wedi eu nodi eisoes heddiw. Rhoddodd y Prif Weinidog ymateb hir iawn i Andrew R.T. Davies—yn haeddiannol iawn ar bwnc mor bwysig—ac rwyf eisoes wedi awgrymu i Simon Thomas beth yw'r safbwynt ar ganabis meddyginiaethol. Rwy'n siŵr y byddwn yn dwyn hynny yn ei flaen cyn gynted â phosibl.