Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 19 Mehefin 2018.
Nid oeddwn yn ymwybodol o Glasgow, ond rwy'n amlwg yn hapus i'w llongyfarch am hynny. Mae hwnnw'n faes eithaf cymhleth. Fe wnaf i holi pam nad ydych chi wedi cael ymateb i'r llythyr a addawyd i chi, ond fe wnaf hefyd drafod ag amryw gyd-Aelodau y Cabinet ynglŷn â'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr, Llywydd, oherwydd bod hynny'n ddarn o waith traws-Lywodraethol eithaf cymhleth.