Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 19 Mehefin 2018.
Ie, rwy'n rhannu pryder yr Aelod ynglŷn â hyn, a gwnaethom ei drafod yn lled ddiweddar yn y Siambr. Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, ac rydym ni wedi cael ymateb eithaf cynhwysfawr. Llywydd, byddaf i'n ymchwilio i'r ffordd orau o rannu hynny ag Aelodau ac yn gwneud yn siŵr y caiff ei rannu cyn gynted â phosibl gan ei fod yn ailddatgan nifer o'r materion y mae Jenny Rathbone newydd eu codi.