Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 19 Mehefin 2018.
Sut y gallwch chi ddweud, oni bai eich bod yn cyflwyno dyletswyddau statudol i ddarparu'r cymorth gan wasanaethau statudol y mae eu hangen ar y bobl hyn a llawer iawn o rai eraill, eich bod chi'n mynd i allu diwallu eu hanghenion â'r gwasanaeth hwn? Hyd nes a heb orfodi eich deddfwriaeth bresennol, fel y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, sut yn y byd y gallwch chi ddweud pa mor dda ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd?