Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch. Doeddwn i ddim yn mynd i siarad ac yna teimlais fy mod eisiau gwneud, oherwydd rwyf wedi gwneud cryn dipyn o waith yn y maes hwn, a phan soniodd rhywun yn gynharach am y 'bobl hyn' meddyliais yn sydyn am y ffaith nad y 'bobl hyn' yn unig ydyn nhw, mae ganddyn nhw enwau: mae Ahin Ahmed, Ibrahim Saba yn ddim ond rhai o'r rhai hynny yr wyf i wedi eu cyfarfod. Credaf ein bod, weithiau, yn siarad am bobl heb ystyried eu bod mewn gwirionedd yn fodau dynol yn ein cymdeithas, ac rwy'n credu mai dyna sut y mae angen inni gyflwyno'r ddadl, a bod ganddyn nhw gymaint i'w roi i ni yn ogystal. Felly, yr agwedd gadarnhaol yr hoffwn ei chyflwyno yw nid yn unig ein bod ni yn eu helpu nhw, ond y gallan nhw ein helpu ni, boed hynny drwy ddiwylliannau newydd, boed hynny drwy ffyrdd newydd o fyw, defodau newydd y gallwn ni ddysgu amdanynt, bwydydd newydd neu flasau newydd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd ei ddysgu gan y rhai sy'n dod i Gymru.
Credaf ei bod hi'n bwysig, oni fyddech chi'n cytuno â mi, bod sefydliadau megis Bloom yn Abertawe a'r Prosiect Ymateb Cymorth Dyngarol Abertawe yn werth eu crybwyll? Oherwydd mae llawer o arwyr di-glod yn hyn oll—gwirfoddolwyr sydd naill ai wedi ymddeol neu bobl ifanc sydd yn jyglo, yn helpu ceiswyr lloches drwy gyfieithu, yn ceisio bod mor gefnogol ag y gallan nhw, a danfon nwyddau i eraill. Ymwelais â cheisiwr lloches yr wythnos diwethaf ac roedd ei phram yn syrthio'n ddarnau. O fewn pum munud i mi ofyn ar Facebook, roedd rhywun wedi danfon pram i mi ac es ag ef iddi ddydd Sadwrn. Roedd hwn yn ddarn drud iawn o gyfarpar na fyddai hi wedi gallu ei fforddio oni bai am letygarwch rhywun yr oeddwn yn ei adnabod. Felly, credaf mai dyna'r elfen gadarnhaol a ddaw o hyn i gyd.
Yr unig faterion oedd gennyf oedd eisiau gofyn rhai cwestiynau i chi o ran y cynllun adsefydlu ffoaduriaid o Syria. Mae hwnnw'n dod i ben yn fuan, felly meddwl wyf i tybed a wyddoch chi a fydd digon o ddilyniant, ac oherwydd bod y ffrydiau ariannu hynny yn dod i ben a wyddom ni nad yw ffoaduriaid o Syria yn mynd i gael eu gadael yn ynysig, ac yn mynd i gael y mecanweithiau cymorth i'w cefnogi.
Byddwn hefyd yn dweud nad yw'r dyraniadau tai yn ddigon da o lawer ar hyn o bryd. Byddaf yn ymweld â theuluoedd sydd ar ben bryniau, yn gwthio pramiau, heb fynediad at lwybrau bysiau, ac maen nhw'n teimlo'n ynysig. Maen nhw yn y tŷ drwy'r dydd, a wyddoch chi beth? Rwy'n credu bod Llywodraeth y DU yn dymuno i hynny ddigwydd yn aml iawn. Maen nhw eisiau iddyn nhw aros yn eu tai, wedi'u hynysu, oherwydd nad ydyn nhw eisiau iddyn nhw wneud ffrindiau, nid ydyn nhw eisiau iddyn nhw deimlo'n rhan o'r gymuned, oherwydd mae hynny'n ddefnyddiol iddyn nhw pan fydd hi'n bryd penderfynu eu halltudio, yn aml iawn. Efallai fy mod yn sinigaidd, ond credaf fod gan hynny rywbeth i'w wneud â'r dyraniadau a lle mae'r tai hynny. Felly, rwy'n eich annog i ddefnyddio'r holl ddylanwad sydd gennych chi mewn perthynas â hynny.
Er enghraifft, yng Nghastell-nedd Port Talbot, nid oes gennym ni unrhyw un sy'n gwerthu bwyd halal. Mae'n rhaid iddyn nhw deithio i Abertawe i gael y bwyd hwnnw. Rwyf wedi ysgrifennu at Tesco, rwyf wedi ysgrifennu at siopau gwahanol yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn gofyn a ellir darparu bwyd halal, ac maen nhw'n dweud na, nid yw'r galw ganddyn nhw. Wel, os yw hynny'n wir, sut maen nhw'n darparu ar gyfer yr union bobl hynny sy'n fwyaf agored i niwed, na fyddant ond yn bwyta'r bwyd hwnnw yn eu bywydau bob dydd?
Yr hyn yr oedd arnaf i eisiau gorffen ag ef oedd hyn: roeddwn wedi synnu y diwrnod o'r blaen, eto wrth ymweld â theulu, a ddywedodd y gwrthodwyd grant gwisg ysgol i'w phlant oherwydd nad oedden nhw yn ffoaduriaid o Syria. Yn ôl pob tebyg nid oes unrhyw system ddwy-haen, ond os ystyrir nad yw ei phlant sy'n dod o wlad wahanol ddim mor bwysig â ffoaduriaid o Syria, yna mae hynny'n mynd i greu tensiwn rhwng ffoaduriaid a cheiswyr lloches nad oes ei angen mewn oes lle maen nhw eisoes yn teimlo eu bod yn cael eu herlid. Felly, pe gallech chi wneud unrhyw beth o ran ag anfon canllawiau diwygiedig i ysgolion, byddwn yn ddiolchgar iawn am hynny.