Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i David Melding a Simon Thomas am eu cyfraniadau i'r ddadl hon, ac am y gefnogaeth a ddangoswyd o bob rhan o'r Siambr i'r gwaharddiad ar ficrobelenni. Bwriad y gwaharddiad yw gwarchod yr amgylchedd morol rhag mwy o lygredd, meithrin hyder defnyddwyr yn y cynnyrch y maen nhw'n ei brynu, sicrhau na fydd niwed i'r amgylchedd, a chefnogi busnesau drwy sicrhau bod yr amodau yr un fath i bawb.