Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 19 Mehefin 2018.
Ai 79 neu 80 Aelod Seneddol Llafur a aeth yn groes i chwip y Blaid Lafur yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r Bil ymadael?
Rhaid iddo fod yn hirhoedlog. Rhaid iddo ddiogelu swyddi a chynhaliaeth pobl. Rhaid iddo fod yn gyson â'r math o wlad rydym ni eisiau bod pan rydym yn gadael: democratiaeth fodern, agored, flaengar, oddefgar, Ewropeaidd. Ac wrth wneud y pethau hyn i gyd, rhaid iddo gryfhau'r undeb rhwng ein gwledydd a'n pobl. Mae gan yr UE, ei hun, wrth gwrs, ddau gymhelliad ychwanegol: y £39 biliwn y bydd yn derbyn os yw'n cytuno i fargen fasnach, a'r pwysigrwydd o gael mynediad i'r DU. Er enghraifft, clywodd y pwyllgor materion allanol fod 10 i 15 y cant o gynnyrch domestig gros 16 talaith yr Almaen yn ddibynnol ar farchnad y DU.
Byddai safbwynt Llafur yn golygu parhau i ddilyn amrywiaeth o reolau'r UE heb unrhyw lais o gwbl. Mae hyn yn torri addewidion Brexit Llafur, ac nid yw'n parchu canlyniad y refferendwm. Pleidleisiodd saith deg y cant o etholaethau Llafur y DU i adael, ac maen nhw eisiau gweld canlyniad y refferendwm yn cael ei anrhydeddu. Mae pobl y tu allan i'r Seneddau ledled y DU yn dechrau blino ar gemau seneddol. Maen nhw eisiau gwybod pryd y cânt Brexit, pryd y caiff ei gyflawni a phryd y bydd yn digwydd. Nid ydyn nhw eisiau clywed yr un hen gân, yr un hen araith gan yr un hen Brif Weinidog yma yng Nghymru, fis ar ôl mis, flwyddyn ar ôl blwyddyn.