Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch, Llywydd. Mewn datganiad ar y cyd ar ôl i bobl Cymru a'r DU bleidleisio i adael yr UE ar 23 Mehefin 2016, dywedodd Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Ewrop a Senedd Ewrop eu bod yn disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu penderfyniad pobl Prydain cyn gynted â phosib, gan ddweud eu bod yn gobeithio y byddai'r DU yn un o bartneriaid agos yr UE yn y dyfodol hefyd.
Nawr, yn groes i'r honiadau sarhaus a wnaed dro ar ôl tro yma nad oedd pobl yn gwybod am beth yr oeddent yn pleidleisio, roedd y dadleuon a gafodd gyhoeddusrwydd mawr o blaid Brexit ar y pryd yn ymwneud ag ad-hawlio rheolaeth dros ein harian, ffiniau, cyfreithiau a masnach. Yn wir, edrychais yn y wasg y bore yma i weld beth roedden nhw yn ei ddweud ar ddiwrnod y refferendwm. Mae Prif Weinidog y DU wedi datgan yn glir ers hynny, yn hytrach na Brexit caled, ei bod hi'n ceisio'r mynediad mwyaf hygyrch posib i'r UE drwy gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol. Fel y dywedodd, rydym ni'n gadael yr UE, gan gyflawni ar y penderfyniad a wnaed gan bobl Prydain yn y refferendwm.
Dywedodd ein bod wedi ymrwymo i gael y fargen Brexit gorau ar gyfer pobl, i hawlio rheolaeth dros ein harian, ffiniau a chyfreithiau, gan feithrin partneriaeth ddofn ac arbennig newydd gyda'r UE.
Mewn cyferbyniad, mae'r cynnig hwn gan Lywodraeth Cymru yn gofyn inni gefnogi'r broses a gymeradwywyd gan Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a fyddai'n sicrhau dim o'r pethau hyn, a Brexit mewn enw yn unig. Ymhellach, fel y dywedais yma fis diwethaf, dywedodd y felin drafod 'Open Europe' wrth y pwyllgor materion allanol ym Mrwsel y byddai'n rhyfedd petai'r DU yn yr undeb tollau. Byddai'r UE yn negodi cytundebau masnach gyda thrydydd partïon heb fod y DU yn rhan o hynny. Os yw'r DU yn y farchnad sengl, dywedodd y byddai'n gorfod derbyn y rheolau heb allu pleidleisio arnynt.
Wrth honni eu bod yn parchu canlyniad y refferendwm, mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru wedi treulio'r ddwy flynedd diwethaf yn pregethu och a gwae, gan hyrwyddo dulliau a fyddai'n ei danseilio. Maen nhw wedi honni na fyddai cytundeb a sicrhawyd gan Lywodraeth y DU fis Rhagfyr diwethaf, sy'n galluogi'r ddwy ochr i symud ymlaen i'r cam nesaf o sgyrsiau Brexit, byth yn digwydd, na fyddid byth yn cytuno ar y cyfnod pontio Brexit a sicrhawyd gan Lywodraeth y DU, cyn wedyn hawlio'r clod am hynny, ac, ac eithrio Mr Drakeford, na fyddid byth yn sicrhau ffordd ymlaen a fyddai'n caniatáu i'r Cynulliad hwn roi cydsyniad deddfwriaethol i Fil ymadael y DU. Bob tro, roedden nhw'n anghywir, ac eto maen nhw yn ei wneud eto wrth geisio tanseilio'r trafodaethau cyfredol ynglŷn â pherthynas y DU gyda'r UE yn y dyfodol, gan daflu ymaith ein holl gardiau negodi ar y dechrau, a chymell yr UE i daro bargen galed.
Mae gwelliant 1, felly—[torri ar draws.] Siawns os ydych chi'n dweud wrth yr ochr arall, 'os ydych chi'n gwrthod dod i gytundeb gyda ni, fe drefnwn ni bethau wedyn i sicrhau nad ydym mewn gwirionedd yn gadael o gwbl'—mae'n rhywbeth nid annhebyg i hynny. Mae gwelliant 1 felly
'Yn cydnabod bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ar y penderfyniad a wnaed yn refferendwm yr UE i adael yr UE ac na ddylid tanseilio ei safbwynt mewn trafodaethau gyda'r UE.'
Ers canrifoedd, mae ein gelynion wedi ceisio ein rhannu a'n dinistrio, ac fel y dywedodd yr AS Ceidwadol Albanaidd Alban Ross Thomson yr wythnos diwethaf, mai'r cwbl y mae'r SNP yn poeni yn ei gylch yw camwri ac annibyniaeth.
Wel, mae'r un peth yn wir am Blaid Cymru. Byddai eu dull o sbwylio pethau wedi amharu ar farchnad fewnol y DU, lle caiff 80 y cant o nwyddau a gwasanaethau y DU eu masnachu, wedi dinistrio swyddi, ac wedi anfon buddsoddiad o Gymru. Fel y dywedodd Prif Weinidog y DU ym mis Mawrth, mae'n rhaid i'r cytundeb a wneir gyda'r UE barchu'r refferendwm, rhaid iddo fod yn un hirhoedlog, rhaid iddo ddiogelu swyddi a chynhaliaeth pobl, rhaid iddo fod yn gyson—[torri ar draws.] Derbyniaf un ymyriad.