Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 19 Mehefin 2018.
Diolch, Llywydd. Mae cynnig y Llywodraeth yn un y gallaf gytuno ag ef. Cynigia Papur Gwyn Cymru y dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o effaith Brexit ar Gymru, ac roedd hyn, i raddau helaeth, oherwydd gwaith ardderchog fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis. Pam, felly, bod Llywodraeth Cymru wedi methu â glynu wrtho? O ran pwerau, o ran yr ardal economaidd Ewropeaidd, ac o ran amrywiaeth o faterion eraill, mae Llafur yn mynd ar drywydd Brexit sy'n cyd-fynd yn fwy â'r Ceidwadwyr nag â'r Papur Gwyn a luniwyd ar y cyd â Phlaid Cymru. O leiaf, mae Llafur yn galluogi neu yn hwyluso Brexit Doraidd eithafol.
Mae pen-blwydd yn gyfnod i fyfyrio, i edrych yn ôl ar y refferendwm ac ar yr ymgyrch. Bu diffyg sylw difrifol i'r ymgyrch yng Nghymru dros 'aros' gan y bobl allweddol a oedd ynghlwm wrthi, ac fe wnaf y pwynt hwn gydag un enghraifft. Yn ystod y mis cyn etholiad 2016 y Cynulliad, yn barod ar gyfer refferendwm yr UE, euthum at y Prif Weinidog gyda chynnig. Amlinellais gynllun syml ond effeithiol i weithredu'r seilwaith ar gyfer ymgyrch 'aros' Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o gymdeithas ddinesig Cymru. Cynigiais y dylai undebau llafur ffurfio craidd y grŵp hwn. Gyda'u rhychwant helaeth a'u diddordeb mewn pleidlais 'aros', roeddwn yn gwybod y gallai grŵp trawsbleidiol dinesig ennyn dylanwad yr undebau, elusennau, grwpiau eglwysig ac ati i gyrraedd y bobl a oedd yn hanfodol eu cyrraedd ar gyfer y refferendwm.
Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn cofio, mae'n siŵr, ein bod ni hefyd yn paratoi ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol, a ddigwyddodd fis yn unig cyn refferendwm yr UE. Roedd llawer ohonom ni yn erbyn y syniad y dylid cynnal y ddwy bleidlais mor agos at ei gilydd. Fodd bynnag, unwaith y daeth yn amlwg nad oedd cyfaddawdu i fod ar yr amserlen, troais fy sylw i'r dasg dan sylw. Roedd fy nghynnig i'r Prif Weinidog yn un diffuant: ymunwch â mi i greu sefydliad cymdeithas ddinesig i ymgyrchu dros bleidlais 'aros'. Roedd bob amser yn mynd i fod yn anodd dadlau o blaid y drefn. Roedd angen i ni drefnu, trefnu, trefnu. Dywedwyd wrthyf gan y Prif Weinidog fod yr undebau llafur yn rhy brysur yn ymgyrchu ac yn codi arian ar gyfer Llafur ar gyfer etholiad y Cynulliad. Gwrthododd y Prif Weinidog ddefnyddio ei arf ymgyrchu mwyaf—yr undebau ac eraill—er lles cenedlaethol. Roedd y Prif Weinidog yn hyderus na fyddai 'gadael' yn ennill. 'Edrychwch ar bob refferendwm arall', meddai. Wel, edrychwch lle rydym ni nawr. Methwyd â defnyddio swyddogaeth Prif Weinidog Cymru i ddwyn ynghyd ymgyrch lwyddiannus, fel y gwnaethom yn 2011 ac ym 1997. Petai chi wedi gwneud hynny, efallai y byddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol, ac rwy'n ystyried tybed a ydych chi'n difaru hynny bellach.
Hyd nes yn ddiweddar, roeddwn i wedi credu bod llygedyn o obaith y byddai Llafur yn cefnogi polisïau a fyddai'n gweld Cymru'n troedio'r llwybr lleiaf niweidiol wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn dilyn pleidlais ar ein haelodaeth o'r farchnad sengl a'u bargen gyda'r Torïaid ar bwerau'r Cynulliad, mae'n amlwg nad felly y bydd hi. Mae hyn yn fy arwain at welliant cyntaf Plaid Cymru.