Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 19 Mehefin 2018.
Mae honiad y Llywodraeth eu bod yn parhau'n ymrwymedig i'r Papur Gwyn yn honiad y maen nhw wedi ei wneud eto heddiw, a hoffwn eu hatgoffa o'r union eiriad. Ar dudalen 20, dywed y Papur Gwyn y caiff unrhyw ymgais i gipio pwerau'n ôl ei ymwrthod yn gadarn. Pan gytunwyd i lunio'r papur hwnnw ar y cyd, nid oeddem yn ystyried y byddai gwrthwynebiad cadarn yn golygu cytundeb gyda Llywodraeth Geidwadol San Steffan a gweld adfachu pwerau ym meysydd polisi 24 i 26, a dyma'r broblem. Mae geiriad y Papur Gwyn yn rhywbeth yr wyf yn parhau i fod yn ymrwymedig iddo. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru, wedi mynd ar drywydd polisïau nad ydynt yn adlewyrchu hynny.
Gadewch i ni ystyried safbwynt Llafur ar y farchnad sengl. Fel yr adlewyrchir yn ail welliant Plaid Cymru, dewisodd y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Llafur ymatal ar welliant allweddol Bil ymadael yr UE a fyddai wedi cadw Cymru yn y farchnad sengl. Nawr, rwy'n derbyn bod y Prif Weinidog efallai yn dweud ei fod yn ymrwymedig i ddyfodol lle mae Cymru yn cymryd rhan yn y farchnad sengl—