Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 19 Mehefin 2018.
Roedd yr undebau llafur yn rhwym wrth yr un ddeddfwriaeth. Wrth gwrs, mae'n ymwneud ag arweinyddiaeth ac wrth gwrs bod cwestiynau i ni i gyd eu hateb ynghylch y ffordd y cynhaliwyd y refferendwm hwnnw, ac roedd ei amseriad yn anffodus yn amlwg, ond rwy'n credu mai gwleidyddiaeth ffantasi yw hyn. A hefyd, mae'n camddeall dyfnder y teimlad ymhlith ei hetholwyr ei hun am yr hyn yr oedd y refferendwm yn ymwneud ag ef. 'Pe byddai ychydig o barchusion â bwriadau da wedi dod at ei gilydd a dechrau ymgyrch fach, byddai popeth wedi bod yn iawn'; o na fyddai hynny'n wir. Dydw i ddim yn credu hynny mewn gwirionedd. Rwy'n synnu ei bod wedi cymryd dwy flynedd iddi ddatgelu hynny ac rwy'n credu ei bod yn feddylfryd peryglus i geisio codi hyn yn awr, i geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol ac awgrymu bod yr ateb ganddi ar hyd yr amser. Mae'n lol llwyr.
Byddwn i'n dweud, mai arweinwyr y bleidlais Brexit honno, yr Ysgrifennydd Tramor, David Davis a Liam Fox, yw'r rhai sy'n arwain y negodiadau hyn bellach i ddilyn y geiriau y dywedodd pob un ohonom ni oedd yn nonsens, ond dylem ni fod yn eu dwyn nhw i gyfrif. Roedd y Papur Gwyn y gwnaethom ni ei negodi ar y cyd rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn foment dda, yn fy marn i, wrth inni ystyried ein buddiannau cyffredin ac mae'n drueni ein bod ni bellach yn dechrau troi ar ein gilydd. Dylem ni fod yn troi ein tân ar y Torïaid a wnaeth addewidion yr oeddem ni'n gwybod na fydden nhw'n eu cadw. Ac, yn hytrach na chyflwyno ffantasi—rwy'n gorffen ar y pwynt hwn—fersiynau ffantasi o hanes y byddai pob dim wedi bod yn iawn, rwy'n meddwl, dewch o na, mae angen inni wneud yn well na hynny a throi ein tân ar y bobl hynny a wnaeth addewidion sydd bellach yn chwalu.