Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 19 Mehefin 2018.
Y gwirionedd yw mai David Cameron sy'n gyfrifol am lawer o hyn, mae arnaf i ofn, oherwydd dywedais i wrtho, 'Peidiwch â'i gynnal ym mis Mehefin, cynhaliwch ef ym mis Medi.' Roedd e'n meddwl y byddai'n gallu ennill y refferendwm fel yr oedd wedi ei wneud yn yr Alban. Dyna oedd y broblem. Roedd e'n dal i fod yn hyderus ar ôl yr hyn a oedd wedi digwydd yn yr Alban ac, o ganlyniad, roedd yna hunanfodlonrwydd yn y fan yna. Roedd yn rhywbeth a ddywedais i wrtho ar y pryd.
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd Plaid Cymru ei bod hi'n awgrymu y dylai'r pwyslais fod wedi bod ar ymladd refferendwm yr UE pan oedd yr etholiad drosodd, ond yn yr wythnos gyntaf roedd hi'n canolbwyntio ar daro bargen gyda'r Torïaid ac UKIP er mwyn cael ei hethol yn Brif Weinidog. [Torri ar draws.] Does gen i ddim amser, yn anffodus.
Mae dau bwynt arall y mee'n rhaid i mi eu gwneud. Yn gyntaf oll, gwnaeth Jenny Randerson y—o bawb. Gwnaeth Jenny Rathbone y pwynt nad ydym ni'n barod i ymdrin ag undeb tollau. Nid yw'r porthladdoedd yn barod, gwnes i'r pwynt hwnnw yr wythnos diwethaf. Does dim byd wedi'i wneud yn y porthladdoedd i hwyluso'r gwaith o symud nwyddau drwy borthladdoedd. Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi'r bai ar y porthladdoedd, does dim amheuaeth gennyf i ynghylch hynny, os bydd oedi yn y porthladdoedd hynny.
Mae Simon Thomas yn gwneud pwynt cwbl gywir pan ddywed, yn yr ymgyrch ar gyfer y refferendwm, y dywedwyd dro ar ôl tro—Senedd y DU oedd hi bob tro, doedd dim sôn amdanom ni—mae'n rhaid dychwelyd pŵer i'r Senedd, ac eithrio pan nad yw'r Senedd yn cytuno â ni. Dyna neges y Brexiteer.
Os ydych chi eisiau edrych am ddehongliad o safbwynt pobl, cynigiwyd cyfle i bobl bleidleisio y llynedd dros Brexit caled fel y'i cynigiwyd gan y Prif Weinidog a dywedodd y bobl, 'Dim diolch.' Fe wnaethon nhw ddweud, 'Rydym ni eisiau rhywbeth gwahanol, dydym ni ddim eisiau'r Brexit a gynigiodd y Blaid Geidwadol.' Mae'n bryd nawr i fod yn realistig. Mae'n bryd nawr am ryw wyleidd-dra ar ran y Blaid Geidwadol yn Llundain. Ond, yn anad dim, mae'n bryd i ni weld arweinyddiaeth yn Llundain, fel sydd gennym yng Nghymru, i ddarparu Brexit synhwyrol, sef yr hyn y gwnaeth pobl Cymru bleidleisio o'i blaid yn fy marn i.