Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 20 Mehefin 2018.
A wnaiff y Gweinidog Cyllid nodi buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru yn y GIG a Chanol De Cymru o ganlyniad i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, ac a yw'n cytuno â Paul Johnson o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid na fydd unrhyw ddifidend Brexit i helpu i gyllido'r hwb ariannol ychwanegol i'r GIG, neu efallai hyd yn oed yn cytuno â Dr Sarah Wollaston, sy'n cadeirio pwyllgor iechyd Tŷ'r Cyffredin, a drydarodd fod hyn yn ddwli? Dywedodd fod dwli difidend Brexit i'w ddisgwyl ond mae'n trin y cyhoedd fel ffyliaid. Trist gweld y Llywodraeth yn boddio dadleuon poblyddol yn hytrach na thystiolaeth ar fater mor bwysig.