Cyllid Strwythurol yr UE

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:39, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a ydych wedi cael cyfle i ddarllen adroddiad yr Athro Graeme Reid ar gyllid ymchwil. Daw i'r casgliad,

Rwyf wedi nodi cryfderau ac asedau cenedlaethol mawr ym mhrifysgolion Cymru ac mewn canolfannau ymchwil ac arloesi a ddatblygwyd yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf ond nid wyf yn argyhoeddedig fod potensial yr asedau hyn yn cael ei wireddu'n llawn er budd Cymru.

Ac aiff yn ei flaen i ddweud bod angen i'r gymuned ymchwil weithio gyda'i gilydd i ddod yn fwy dylanwadol wrth sicrhau cyllid cystadleuol. Ac mae hynny'n bwysig iawn os gallwn barhau ar y lefel Ewropeaidd am beth amser neu ar beth bynnag a ddaw drwy lefel y DU ar ffyrdd cronfeydd ffyniant a rennir neu fecanweithiau eraill y gellir eu cytuno yn awr.