Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 20 Mehefin 2018.
Weinidog, rydych yn gyfrifol am y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ac fe fyddwch yn ymwybodol o ohebiaeth flaenorol fy mod yn pryderu ynglŷn â'r ffordd y mae cwmnïau mwy o faint yn ei chael hi'n haws o lawer llywio a sgorio'n uwch yn y broses dendro ar gyfer caffael na chwmnïau llai o faint nad oes ganddynt adran gaffael benodol fel eu cymheiriaid mwy o faint. Rhoddais enghraifft benodol ichi ynglŷn â sut y cafodd hyn effaith ar gwmni yn y Rhondda, ac mae wedi golygu bod yr arian wedi'i golli o fy etholaeth i bellach ac wedi mynd i gwmni o'r tu allan i Gymru, sy'n amlwg yn mynd i gael effaith ar swyddi lleol a busnesau eraill hefyd. Pa bwysau y gallwch ei roi yn eich Llywodraeth i sicrhau chwarae teg i bob busnes, boed yn rhai mawr neu'n rhai bach, mewn perthynas â'r broses dendro?