10. Dadl Fer: Dathlu Diwrnod Dyneiddiaeth y Byd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 6:17, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer hon i gydnabod diwrnod dyneiddiaeth y byd, sef yfory, ac i sôn ychydig am athroniaeth dyneiddiaeth a'i chyfraniad i feddwl blaengar yng Nghymru, y DU a'r byd.

Mewn byd o anoddefgarwch a rhaniadau cynyddol, byd sy'n newid yn ddramatig oherwydd datblygiad technolegol a globaleiddio, weithiau mae'n haws ymlynu at gredoau cul ac anwybyddu ehangder meddwl, dychymyg a chyffredinrwydd credoau libertaraidd sydd i'w cael yn y byd, boed hynny'n gysylltiedig â chred mewn Duw neu gred resymegol nad oes Duw.

Mae dyneiddiaeth yn deillio o draddodiad hir o feddwl rhydd sydd wedi ysbrydoli llawer o feddylwyr mawr y byd, o wyddonwyr i ddiwygwyr cymdeithasol. Mae dyneiddwyr yn credu mai un bywyd sydd gennym ac yn anelu i fyw bywydau moesegol a llawn ar sail rheswm a dyneiddiaeth, gan osod lles a hapusrwydd dynol yn ganolog i'w penderfyniadau moesegol.

Mae dyneiddiaeth yn athroniaeth sy'n cefnogi democratiaeth a hawliau dynol. Mae'n ceisio defnyddio gwyddoniaeth yn greadigol ac nid yn ddinistriol er mwyn chwilio am atebion i broblemau'r byd drwy feddwl a gweithredu dynol yn hytrach nag ymyrraeth ddwyfol. Dywedodd Bertrand Russell, athronydd a dyneiddiwr Prydeinig mawr, a wnaeth ei gartref ym Mhenrhyndeudraeth:

os ydym i fyw gyda'n gilydd, ac nid marw gyda'n gilydd, rhaid inni ddysgu math o gariad a math o oddefgarwch sy'n gwbl hanfodol i barhad bywyd dynol ar y blaned hon.

I'r graddau hyn, mae llawer yn debyg yn athronyddol ac yn foesegol rhwng dyneiddiaeth a chredoau crefyddol Cristnogol, Bwdhaidd, Iddewig ac Islamaidd sylfaenol. Mae dyneiddwyr yn aml yn rhannu gwerthoedd â chrefyddau, gyda llawer o debygrwydd rhyngddynt ag athroniaeth a moeseg Cristnogaeth, Iddewiaeth, Islam a Bwdhaeth. Ond nid yw dyneiddiaeth yn seiliedig ar fodolaeth Duw nac yn gaeth i unrhyw set o ddysgeidiaethau neu gredoau crefyddol. Cred ydyw mewn rheswm ac ymreolaeth fel agweddau sylfaenol ar fodolaeth ddynol. Mae dyneiddwyr yn gwneud eu penderfyniadau moesegol yn seiliedig ar reswm, empathi a gofal am fodau dynol ac anifeiliaid ymdeimladol eraill.

Mae dyneiddiaeth wedi bodoli ers miloedd o flynyddoedd, ond datblygodd y cysylltiadau rhwng syniadau dyneiddiol a diwygio cymdeithasol yn sylweddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan gafodd cenhedlaeth newydd o ddiwygwyr cymdeithasol ac ymgyrchwyr eu dylanwadu gan athronwyr a deallusion a ysgrifennodd am bobl yn gwneud gwahaniaeth i'r byd a gofalu am ei gilydd heb ystyried crefydd. Gwrthododd Aneurin Bevan gredoau ei rieni anghydffurfiol i ddod yn sosialydd seciwlar. Roedd Robert Owen yn ddyneiddiwr a aned yn y Drenewydd, ac yn un o sylfaenwyr y mudiad cydweithredol.

Heddiw, rydym yn byw mewn byd lle y rhagwelir y bydd 50 y cant o gyfoeth y byd yn nwylo 1 y cant o'r boblogaeth erbyn 2030. Mae hanner y byd yn ffynnu tra bod hanner y byd yn newynu. Wrth i anghydraddoldeb gynyddu, daw cymdeithasau'n fwyfwy ansefydlog, mae cenedlaetholdeb cynyddol yn troi pobl yn erbyn pobl, caiff rhwystrau eu codi a heuir hadau gwrthdaro.

Fel gyda sosialaeth foesegol, mae dyneiddiaeth yn ymwneud â'r gred fod y pŵer i ddatrys yr holl broblemau hyn yn ein dwylo ni, drwy ddadansoddi rhesymegol, y defnydd o wyddoniaeth er budd pawb, a thrwy gydnabod ein dyneiddiaeth gyffredin a'n cyfrifoldeb tuag at ein gilydd.

Efallai mai dyneiddiaeth yw'r safbwynt athronyddol diofyn i filiynau o bobl yn y DU heddiw, ac mae llawer o ddyneiddwyr yn gwella cymdeithas drwy gryfhau ein rhyddid democrataidd, yn ymroi'n ddiwyd i waith elusennol, gan gynyddu ein corff o wybodaeth wyddonol a gwella ein bywyd diwylliannol, creadigol a dinesig. Yng Nghymru, mae 53 y cant o'r boblogaeth yn dweud nad ydynt yn perthyn i unrhyw grefydd, ac mae hyn yn cynnwys 73 y cant o rai rhwng 18 a 24 oed a 69 y cant o rai rhwng 25 a 34 oed.

Er mwyn sicrhau moeseg ddinesig gwbl gynhwysol yn ein cymdeithas, rhaid inni gydnabod hawliau pobl nad ydynt yn grefyddol. Yn 2015, galwodd yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth, cyn Archesgob Caergaint, am gynnwys dyneiddiaeth yn y cwricwlwm astudiaethau crefyddol yn Lloegr, ochr yn ochr â Christnogaeth ac Islam. Roedd ymhlith y llofnodwyr a gynhwysai gynrychiolwyr Iddewig, Mwslimaidd a Sikh amlwg a ddadleuai y byddai cynnwys syniadau anghrefyddol yn cynrychioli'r Brydain fodern yn fwy cywir a byddai'n caniatáu i bobl ifanc astudio sampl fwy cynrychioliadol o brif safbwyntiau'r byd sy'n gyffredin ym Mhrydain heddiw.

Felly, gallwn ymfalchïo yn y camau i'r cyfeiriad hwn yng Nghymru. Mae dyneiddiaeth bellach ar y cwricwlwm addysg grefyddol yng Nghymru. Yn dilyn her gyfreithiol, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu'n ddiweddar at bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i'w hysbysu bod yn rhaid i gynrychiolwyr systemau cred nad ydynt yn grefyddol gael yr un hawl â chynrychiolwyr crefyddol i fod yn aelodau o'r cynghorau ymgynghorol sefydlog ar addysg grefyddol, sef y cyrff awdurdod lleol sy'n gyfrifol am oruchwylio addysg grefyddol mewn ysgolion.

Felly, yng Nghymru, rydym yn gwneud cynnydd, ond mae ffordd bell i fynd o hyd. Mae priodasau dyneiddiol yn gyfreithiol yn yr Alban ac yn Jersey, ond nid yng Nghymru, lle mae'r gyfraith yn dal heb ei datganoli, a phedwar ysbyty yn unig yng Nghymru sydd wedi cytuno i dderbyn gofalwyr bugeiliol anghrefyddol gwirfoddol yn rhan o'u timau caplaniaeth.

Mae cydnabod rôl dyneiddiaeth yng Nghymru fel rhan o'n system gred yn ymwneud hefyd â sicrhau moeseg ddinesig gwbl gynhwysol ym mhob un o'n sefydliadau cymdeithasol a chyhoeddus. Mae gan y rhai nad ydynt yn grefyddol, a buaswn yn dweud bod hynny'n golygu'r mwyafrif o bobl yn ein cymdeithas gyfoes mae'n debyg, lawer i'w gyfrannu at y gwerthoedd y seiliwyd ein cymdeithas arni ac at y cyfeiriad y bydd yn ei gymryd yn y dyfodol.

Yn Much Ado About Nothing mae William Shakespeare yn dweud:

Cara bawb, ymddirieda mewn ambell un, / na wna gam â neb.

Mae'n well gennyf y datganiad mwy proffwydol gan yr athronydd Prydeinig ac un o sefydlwyr America, Thomas Paine:

Y Byd yw fy ngwlad, yr holl ddynol-ryw yw fy mrodyr, a gwneud daioni yw fy nghrefydd.

Diolch.