Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 20 Mehefin 2018.
Diolch, arweinydd y tŷ. Mae'r wasg genedlaethol a lleol a'r teledu yn clywed yn aml sut y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn annog darparwyr ynni i osod mesuryddion deallus mewn cartrefi er mwyn mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Nawr, mae pobl o ardaloedd gwledig yn fy etholaeth wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod yn amhosibl gosod mesuryddion deallus oherwydd diffyg signal ffonau symudol, sy'n angenrheidiol er mwyn i fesuryddion deallus weithio. A allwch amlinellu pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r sector ynni ynglŷn â'r mater hwn, ac a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gynnwys hyn a'r materion hyn yn y blaenoriaethau ar gyfer cynllun gweithredu ffonau symudol Llywodraeth Cymru?