Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 20 Mehefin 2018.
Gwnaf, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i gefnogi'r gymuned LHDT yng Nghymru. Mae camau gweithredu cysylltiedig yn cynnwys gwaith ar addysg rhywioldeb a pherthnasoedd, canllawiau gwrthfwlio wedi'u diweddaru a gwelliannau i'r gwasanaethau hunaniaeth rhywedd. Rydym hefyd yn darparu cyllid i Stonewall Cymru i gefnogi pobl LHDTC+ a gwella ein dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio arnynt.