Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 20 Mehefin 2018.
Ie, rwy'n croesawu'r awgrym. Byddaf yn cyflwyno papur i'r Cabinet ar drawsnewid gwasanaethau digidol yn y sector cyhoeddus yn yr hydref, a bydd yn dwyn ynghyd ystod eang o weithgareddau sydd eisoes ar waith ac yn canolbwyntio ar y camau nesaf. Felly, mae'n gyfle perffaith i gynnwys y math hwnnw o her yn y broses i wneud yn siŵr fod gennym y wybodaeth orau ar gyfer uwchsgilio ein pobl er mwyn sicrhau bod y trawsnewidiad hwnnw'n digwydd. Felly, rwy'n croesawu'r awgrym yn fawr a gobeithiaf y gallwn fwrw ymlaen ag ef.