Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 20 Mehefin 2018.
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Rwy'n cadeirio'r grŵp trawslywodraethol, sy'n dwyn ynghyd rhannau gwahanol o Lywodraeth Cymru, ac rwyf wedi bod yn cydweithio gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ar ddatblygu'r agenda ddigidoleiddio iechyd, sy'n rhan bwysig iawn o hyn. Mae sawl elfen iddi, fel y mae gwahanol Aelodau wedi nodi. Ceir yr elfen sgiliau, ceir yr elfen dechnoleg a chaledwedd, yr elfen seilwaith, ond hefyd ceir yr elfen trawsnewid gwasanaethau a thrawsnewid bywydau. Nid ni sydd â'r syniadau da i gyd ar hynny, felly rwy'n croesawu cyfoeth o syniadau o bob cyfeiriad ar sut y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn dilyn y don yn hytrach na chael ein boddi ganddi.