Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:03, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, ni allwn anghytuno yn fwy sylfaenol â chi hyd yn oed pe bawn yn ceisio gwneud hynny. Roeddech yn gywir yn eich diffiniad o'r gair 'ffoadur'; roeddwn yn sôn yn syml am drugaredd y sefyllfa. Roeddwn i, fy hun, yn ymfudwr economaidd ar draws y byd, lle y cefais fy nerbyn gydag ymateb da iawn ym mhob cymuned y symudodd fy nheulu iddi, ac roeddem yn symud yno er mwyn sicrhau canlyniad economaidd gwell i'n teulu ni. Nid oes gennyf mo'r galon, fel y dywedais ddoe, i drin unrhyw un arall yn wahanol.