Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 20 Mehefin 2018.
A gaf fi ddiolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw? Nid wyf am ofyn beth yw'r cyflymder lanlwytho gan y bydd hwnnw'n is mae'n debyg. Mae'r pwynt roeddwn eisiau ei ddwyn i sylw arweinydd y tŷ yn un allweddol. Mae gennym ddarpariaeth uchel iawn, ond nid oes gennym nifer fawr o bobl yn manteisio arno. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog ei ddefnydd gan bobl sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn, ond nad ydynt yn gwybod ei fod ar gael neu nad ydynt yn credu o bosib eu bod ei angen? Rwyf am eich dyfynnu o ychydig funudau yn ôl: mae'n wasanaeth sylfaenol, nid rhywbeth ychwanegol ar gyfer y cyfoethog yn unig. Felly, beth y gellir ei wneud i'w hyrwyddo er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn defnyddio band eang cyflym iawn, gan y byddai o fudd mawr iddynt hwy a'u teuluoedd?