Ymgysylltu â Holl Bobl Cymru a Hyrwyddo'r Cynulliad

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 3:07, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Gwn y bydd y Senedd yn fy rhanbarth i yn Nelyn yr wythnos nesaf ac rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyfle i bobl o bob cwr o Gymru weld a chlywed am yr hyn sy'n digwydd yn y lle hwn. Mae gennyf ddiddordeb arbennig heddiw yn yr uchelgeisiau a nodwyd yn y strategaeth i ganolbwyntio ar ddod wyneb yn wyneb â phobl sydd wedi ymddieithrio a thrwy dargedu gwell. Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i gyflawni'r nod hwnnw?