Colli Swyddi ym Mharclays yng Nghaerdydd

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:24, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiwn a dweud ei bod yn drueni mawr iawn fod Barclays wedi gwneud y penderfyniad hwn. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i gynorthwyo gweithwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn fel mater o frys. Byddaf yn siarad â rheolwyr Barclays ddydd Gwener, a chyfarfûm â chynrychiolwyr undeb y bore yma.