Colli Swyddi ym Mharclays yng Nghaerdydd

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:36, 20 Mehefin 2018

Yn gyntaf, mi liciwn i gydymdeimlo'n fawr efo'r holl weithwyr sy'n cael eu taro gan hyn. Rwy'n gresynu ein bod ni unwaith eto yn gweld gweithlu medrus a ffyddlon yn cael ei adael i lawr. Fy mhryder i, rwy'n meddwl, ydy'r patrwm o weld swyddi'n cael eu torri yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, ddim yn cael gwybod am y toriadau tan mae'r penderfyniad eisoes wedi cael ei wneud. Ac rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth sy'n pryderu'r Ysgrifennydd Cabinet ei hun. Nid ydw i'n meddwl fy mod i'n argymell y dylai'r Llywodraeth gael ei chynnwys o fewn trafodaethau ar fyrddau y cwmnïau yma, ond, rywsut, mae'r cyfathrebu yn methu, ac mae angen cwestiynu, rwy'n meddwl, fel rhan o'n gwaith ni o ddal y Llywodraeth yma i gyfrif, pa mor effeithiol ydy'r berthynas rhwng y Llywodraeth a chyflogwyr mawr fel Barclays, yn enwedig o ystyried bod Pentwyn wedi ei leoli ar gyrion ardal menter canol Caerdydd, sy'n arbenigo yn y sector ariannol.

Felly, o ran fy nghwestiynau i, pa bryd oedd y tro diwethaf ichi gyfarfod efo Barclays, cyn cael gwybod am y newydd yma, ac a gafodd y posibilrwydd y buasai swyddi'n cael eu colli yng Nghaerdydd ei drafod bryd hynny? Fy ail gwestiwn: o ystyried bod un o benaethiaid Barclays yn aelod o banel sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol y Llywodraeth, mae'n rhaid gofyn a ydy'r paneli yma yn gwneud eu gwaith, oherwydd er bod defnyddio'r paneli yma i gydweithio er mwyn denu cwmnïau newydd yn y sector i Gymru yn un o ddibenion eu bodolaeth nhw, mae hefyd, onid ydy hi, yn allweddol i ddefnyddio'r paneli er mwyn gwybod sut mae diogelu swyddi o fewn y sector sy'n bodoli yn barod, ac i fod yn radar i adnabod problemau. Ac yn olaf, rydych chi wedi ymfalchïo bod swyddi newydd wedi cael eu canfod i bobl sydd wedi colli eu swyddi mewn canolfannau galwadau—ac a gaf i ei gwneud hi'n berffaith glir fy mod innau hefyd yn croesawu'n fawr bod swyddi wedi cael eu canfod? Ond, gadewch i mi ofyn, o ystyried ansefydlogrwydd y sector, sydd eto wedi ei amlygu ei hun yn fan hyn, pa mor gynaliadwy ydy hi mewn gwirionedd i'r Llywodraeth barhau i roi ffydd yn y sector canolfannau galw?