Colli Swyddi ym Mharclays yng Nghaerdydd

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:26, 20 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn gywir yn dweud bod nifer sylweddol o swyddi wedi cael eu colli o ganlyniad i newidiadau mawr sy'n digwydd o fewn y sector canolfannau galwadau ar hyn o bryd. Ond yn yr un modd, mae nifer enfawr o swyddi'n cael eu creu yng Nghaerdydd, ac o ganlyniad uniongyrchol i gymorth Llywodraeth Cymru, mae yna stori dda i'w hadrodd am swyddi a sicrhawyd yn TUI yn Abertawe, yn Which?, sy'n agor eu canolfan alwadau gyntaf erioed yng Nghaerdydd, ac Aon, yn ogystal â MotoNovo—mae'r rhain i gyd yn gwmnïau sydd wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i greu swyddi gwerthfawr.

Fodd bynnag, mewn perthynas â'r mater penodol hwn, unwaith eto, rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r rhai a gafodd eu heffeithio gan y penderfyniad. Nawr, mae Barclays wedi rhoi sicrwydd i ni y bydd yn cadw 250 o swyddi, gan gynnwys 44 o swyddi gwag y mae Barclays yn bwriadu eu llenwi yng Nghaerdydd, ond mae hwn yn ymrwymiad rwyf eisiau ei weld yn cael ei osod mewn concrid, a bydd gennyf nifer o gwestiynau i'w gofyn i Barclays ddydd Gwener. Bydd fy neges i'r busnes yn glir iawn—fod ganddynt bump o werthoedd, yn seiliedig ar barch, gonestrwydd, gwasanaeth, rhagoriaeth a stiwardiaeth, ac mae angen iddynt ddangos bod eu gwerthoedd yn cyrraedd at frig y cwmni o ran sut y maent yn ymdrin â'r gweithwyr yr effeithir arnynt gan y cyhoeddiad. Yr hyn sy'n gwbl glir yw y bydd y penderfyniad yn arwain at dasg anodd i Barclays wrth iddynt fynd ati i gyflogi pobl newydd yn Northampton, oherwydd maent yn cael trafferth ar hyn o bryd. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, yn seiliedig ar drafodaethau y bore yma, maent yn ei chael hi'n anodd recriwtio pobl sydd ar gael yn barod yn Northampton, ac yn lle hynny, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i Barclays dalu premiwm er mwyn ceisio denu pobl o fusnesau eraill. Nid yw hynny'n dda iddynt, nid yw'n dda i'r bobl a fydd yn colli eu swyddi yma yng Nghaerdydd, ac nid yw'n dda ychwaith i'r busnesau yn Northampton a fydd yn colli staff gwerthfawr. Nid yw hwn yn benderfyniad synhwyrol yn fy marn i, a dyma'r neges y byddaf yn ei rhoi i Barclays.

Nawr, y rheswm sy'n sail i'r newidiadau mawr y soniais amdanynt yw bod newid sylweddol yn ymddygiad defnyddwyr, ac o ganlyniad i hynny, rydym yn gweld llawer iawn o gyfuno'n digwydd ar draws y DU, sy'n cynnwys darparu gan gyflenwyr allanol, ac yn wir, darparu adnoddau i'r DU. Er bod Cymru wedi bod ar ei hennill—ac yn amlwg, mae Caerdydd wedi bod ar ei ennill yn ddiweddar—ac rwyf wedi nodi rhai o'r busnesau rydym wedi'u cynorthwyo i greu swyddi, rydym hefyd wedi wynebu colledion. Yr hyn sy'n hollbwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo busnesau newydd i greu swyddi yma ond ei bod hefyd yn parhau i helpu busnesau sy'n bodoli'n barod i dyfu eu gweithrediadau. Rydym wedi cael stori lwyddiant dda iawn yn ddiweddar mewn perthynas â'n sector canolfannau cyswllt cwsmeriaid, yn ogystal â'r sector gwasanaethau proffesiynol ac ariannol ehangach, a ddoe, cyhoeddodd fforwm canolfannau cyswllt Cymru ffigurau ar economi de Cymru a nifer y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd, credaf fod dros 1,145 o swyddi gwag ar gael yn y sector. Hefyd, o ganlyniad i'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn busnesau, bydd 800 o swyddi pellach yn cael eu creu erbyn diwedd y flwyddyn hon, sy'n dangos bod y sector yn fywiog ac yn gryf yng Nghaerdydd ac yng Nghymru yn gyffredinol. Ond mae ein sylw yn awr—yn union fel y buom yn cynorthwyo'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan benderfyniad Tesco, mae'r Aelod yn ymwybodol o'r cymorth mawr sy'n cael ei roi i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan hynny, a chanlyniad y sefyllfa honno oedd dod o hyd i swyddi eraill i fwyafrif enfawr o'r gweithwyr. Byddwn yn gwneud yr un peth i'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn Barclays, ond yn gyntaf oll, byddaf yn mynegi fy safbwyntiau wrth Barclays ac yn dweud wrthynt fod hwn yn benderfyniad gwael i'r cwmni ac yn benderfyniad gwael i'r rhai y bydd yn effeithio arnynt.