6. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Adroddiad ar y Tanwariant sy’n deillio o Benderfyniadau’r Bwrdd Taliadau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 20 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:48, 20 Mehefin 2018

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ers rhai misoedd bellach mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cynnal gwaith i mewn i berthynas a defnydd Comisiwn y Cynulliad o'r tanwariant sy'n deillio o benderfyniad y bwrdd taliadau. Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad, ond mae'r sefyllfa hefyd wedi newid yn ystod yr wythnosau diwethaf. Felly, roeddwn yn gobeithio y byddai datganiad a chwestiynau yn ffordd well o ddelio gyda hwn, yn hytrach na dadl ffurfiol ar yr adroddiad. Fe gawn ni weld a yw'r Aelodau yn cytuno â hynny.

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi dangos diddordeb brwd, fel y dywedais i, yn y modd y mae’r Comisiwn yn cyllidebu. Wrth benderfynu sut i gyllidebu ar gyfer y penderfyniad, yr arfer hyd yma yw i’r Comisiwn gyllidebu ar gyfer gwario’r swm mwyaf posib ar bob Aelod neu blaid, ac yna ddefnyddio unrhyw danwariant i ariannu ei flaenoriaethau buddsoddi. Rydym wedi bod yn pryderu am y dull hwn o weithredu ers peth amser, gan ei fod, yn ein barn ni, yn golygu nad yw cyfanswm gwariant y Comisiwn yn ddigon tryloyw. O'r herwydd, penderfynasom ni gynnal ymchwiliad penodol byr i'r modd y defnyddir y tanwariant ac ystyried sut y mae Seneddau eraill yn y Deyrnas Gyfunol, ac yng ngweddill y byd, yn cyllidebu ar gyfer gwariant yn ymwneud â thâl a lwfansau'r Aelodau. 

Yn ystod ein hymchwiliad, cyhoeddodd y bwrdd taliadau ymgynghoriad ynghylch hyblygrwydd y lwfansau yn y penderfyniad. Mae’r ymgynghoriad hwnnw wedi arwain at hyblygrwydd ychwanegol yn lwfansau’r Aelodau. Mae hyn, yn ei dro, wedi effeithio ar benderfyniadau cyllidebu’r Comisiwn, a byddaf yn sôn rhagor am hyn maes o law.

Un o’r prif feysydd yr oeddem yn awyddus i’w harchwilio gyda’r Comisiwn fel rhan o’n gwaith craffu oedd y modd y mae’n cyllidebu ac yn rhagweld gwariant. Rydym wedi argymell yn flaenorol fod y Comisiwn yn paratoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y flwyddyn, cyn diwedd pob blwyddyn galendr, ar y tanwariant sy’n debygol o ddeillio o’r penderfyniad, ynghyd ag unrhyw newidiadau sylweddol i’r prosiectau y bwriedir eu hariannu drwy ddefnyddio’r tanwariant hwn. Roeddem yn falch o weld bod y Comisiwn wedi cynnwys rhagor o fanylion yn ei wybodaeth am gyllideb 2018-19 am yr arian y mae’n amcangyfrif a fydd ar gael o gyllidebau cyfalaf a gweithredol a phenderfyniad y bwrdd taliadau. Fel pwyllgor, rydym yn croesawu’r camau a gymerodd y Comisiwn yn ystod y cylch cyllidebu diwethaf, gan ein bod yn credu bod hynny’n hwyluso’r gwaith craffu.

Un maes arall sy’n peri pryder i ni yw’r modd y mae’r Comisiwn yn defnyddio’r tanwariant i ariannu blaenoriaethau buddsoddi. Nid oeddem yn gyfforddus â’r egwyddor bod cyllideb y Comisiwn yn dibynnu ar danwariant i ariannu prosiectau a gwaith yn y meysydd blaenoriaeth, megis cynnal a chadw ystad y Cynulliad. Er ein bod yn sylweddoli y gall hyn, wrth gwrs, fod yn ddefnyddiol i ddwyn prosiectau ymlaen, mae’r bwriad i ariannu rhai prosiectau drwy ddefnyddio’r tanwariant, dros nifer o flynyddoedd, yn dal i beri pryder i ni, gan fod y Comisiwn, wedyn, yn dibynnu ar adnodd na ellir ei ragweld. Rydym yn credu y dylid nodi prosiectau craidd a’u hariannu ar wahân.

Wedi iddo drafod ein hadroddiad a phenderfyniadau’r bwrdd taliadau i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn lwfansau’r Aelodau, mae’r Comisiwn wedi cadarnhau, ac rydym yn croesawu hyn, ei fod wedi adolygu’r modd y mae’n ariannu prosiectau, ac y bydd prosiectau sydd wedi’u blaenoriaethu i’w cwblhau yn ystod 2019-20 yn cael eu nodi nawr yn nogfen y gyllideb, a bydd yn awr yn cael ei ariannu’n llawn o linell gwariant cyllideb graidd y Comisiwn. Rydym yn credu y bydd y penderfyniad hwn yn hwyluso’r gwaith craffu. Bydd prosiectau’n cael eu nodi gan y Comisiwn wrth iddo gynllunio’i gyllideb, bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu arnynt, ac yn eu trafod yn ystod y blynyddoedd dilynol i sicrhau bod y Comisiwn yn atebol am roi prosiectau ar waith. Drwy hynny, bydd y Comisiwn yn dilyn yr un broses o gynllunio a chyllidebu â chyrff eraill a ariennir yn uniongyrchol.

Fodd bynnag, mae’r Comisiwn wedi dweud bod hyn yn debygol o arwain at gynnydd yn ei gyllideb graidd, i wneud yn iawn, wrth gwrs, am y gwariant y byddai’r tanwariant wedi’i ariannu fel arall. Mae hyn, ar y wyneb, yn mynd yn groes i argymhelliad blaenorol y Pwyllgor Cyllid y cytunodd y Comisiwn ag ef, sef na ddylai'r gyllideb gynyddu’r tu hwnt i unrhyw gynnydd yng ngrant bloc Cymru yn ystod gweddill oes y Cynulliad hwn. Er ein bod yn derbyn y bydd y Comisiwn nawr yn dychwelyd unrhyw danwariant o linell wariant y penderfyniad, rydym yn pryderu y gallai’r gyllideb gynyddu. A ninnau mewn cyfnod o gyni ariannol, a bod gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn wynebu toriadau eang a pharhaus mewn termau real, rydym yn tynnu sylw at sylwadau Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru fod rhai o brosiectau posibl y Comisiwn yn brosiectau y byddai’n braf eu rhoi ar waith, yn hytrach na’n brosiectau cwbl hanfodol. Byddem ni, felly, yn annog y Comisiwn i ystyried ei flaenoriaethau yn ofalus i sicrhau bod gwir angen rhoi prosiect ar waith er mwyn cyflawni strategaethau a nodau’r Comisiwn. Diolch.