Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 26 Mehefin 2018.
Wel, gall ffermwyr, wrth gwrs, ystyried cynlluniau fel y cynlluniau amaeth-amgylchedd presennol. Ceir cynllun grantiau bach y bydd yr Aelodau'n ymwybodol ohono, a hefyd, wrth gwrs, Cyswllt Ffermio, sy'n gallu helpu ffermwyr i ddod yn fwy cynaliadwy o ran eu busnesau. Felly, mae nifer o ddewisiadau ar gael i ffermwyr i wneud eu harferion yn fwy cynaliadwy ac, wrth gwrs, i wneud eu busnesau yn fwy cynaliadwy.