Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 26 Mehefin 2018.
Mae hyn fel gwylio rhywun yn chwarae dartiau ac yn ceisio anelu'n fwriadol at y wal i'r ochr yn hytrach na'r dartfwrdd ei hun. Ar ddiwrnod pan fo pobl o wahanol bleidiau wedi mynegi pryder—maen nhw wedi ei fynegi mewn gwahanol ffyrdd, wrth gwrs, fel y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud, yn dibynnu ar ba blaid y maen nhw'n aelodau ohoni—ar ddiwrnod pan fo pobl wedi mynegi pryder am benderfyniad Llywodraeth y DU, mae Plaid Cymru wedi rhoi rhwydd hynt iddyn nhw.